SL(6)564 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a diben

Gosodwyd Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024 yn y Senedd ar 22 Tachwedd 2024. Yn ei adroddiad ar y Rheoliadau hynny, nododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad sawl pwynt technegol i adrodd arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2.

Roedd un o'r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â dyddiad dod i rym darpariaethau penodol. Mae’r offeryn hwn yn amnewid rheoliad 1(3) newydd yn y Rheoliadau hynny i fynd i’r afael â’r mater fel bod y darpariaethau sydd angen dod i rym ar 1 Ionawr 2025 yn gallu gwneud hynny.

Yn y Memorandwm Esboniadol i'r offeryn hwn, mae Llywodraeth Cymru yn datgan y bydd gwaith yn digwydd ar wahân i fynd i’r afael â’r pwyntiau technegol eraill a nodir yn adroddiad y Pwyllgor.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.  Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Gwneir y Rheoliadau hyn mewn ymateb i wallau a nodir yn adroddiad y pwyllgor hwn ar Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024, a’r eglurhad sy’n ofynnol gan yr adroddiad hwnnw.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

19 Rhagfyr 2024